Profi A/B: hap-arbrawf gyda dau amrywiolyn, e.e. yn dangos ar hap wahanol siopwyr ar-lein dau fersiwn gwahanol o dudalen brynu e-fasnach i nodi pa opsiwn sy'n arwain at y gyfran uchaf o drafodion sy'n cael eu cwblhau.
Hygyrchedd: hygyrchedd digidol yw gallu gwefan, y gallu i’w ddefnyddio ar ffôn symudol, profiad digidol, cynnwys neu wasanaeth fod yn hawdd cael gafael arnynt, eu llywio, eu defnyddio a'u deall gan ystod eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys y rhai ag anableddau gweledol, clywedol, echddygol neu wybyddol.
Bluetooth: safon ar gyfer cysylltiad di-wifr ystod byr o ffonau symudol, cyfrifiaduron a dyfeisiau electronig eraill.
Modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM): proses sy'n seiliedig ar fodel 3D sy'n rhoi'r wybodaeth a'r offer i weithwyr proffesiynol ym maes pensaernïaeth, peirianneg, adeiladu a rheoli cyfleusterau i gynllunio, dylunio, adeiladu a rheoli adeiladau a seilwaith.
Cipio neu gipio perfformiad: y broses o recordio actorion, perfformwyr neu gynyrchiadau llawn neu arddangosfeydd gan ddefnyddio fideo neu dechnegau recordio 3D.
Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM): dull o reoli rhyngweithiadau sefydliad â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid (neu ymwelwyr/cynulleidfaoedd). Caiff y broses o gofnodi a dadansoddi data am ryngweithiadau cwsmeriaid â sefydliad, yn aml drwy gronfa ddata CRM, ei defnyddio fel arfer i lywio gweithgareddau marchnata a gwella lefelau cadw cwsmeriaid a gwerthiannau.
Digidol: cynnwys neu ymwneud â thechnoleg gyfrifiadurol. Yn y cyd-destun hwn, gall digidol ddisgrifio cynnwys, gwasanaethau, profiadau, data, systemau neu dechnolegau.
Gallu digidol: yr hyn y gall unigolyn ei gyflawni gyda digidol, cyd-destun y gweithgaredd hwn, a sut y gall gwblhau tasg ddigidol o fewn cyd-destun penodol (e.e. y gallu i redeg sianel cyfryngau cymdeithasol sefydliad diwylliannol).
Cymhwysedd digidol: yr hyn y gall unigolyn ei wneud â digidol a sut y gall weithredu gweithred, gan ddefnyddio offeryn digidol fel arfer (e.e. y cymhwysedd i drydar).
Llythrennedd digidol: sut mae person yn ystyried digidol a'u hymwybyddiaeth o'r modd y mae eu gweithredoedd a'u tasgau yn cysylltu â disgwyliadau eu lleoliad proffesiynol (e.e. y llythrennedd i fyfyrio ar beth yw arferion gorau'r cyfryngau cymdeithasol yn eu sector a sut y gallent ddatblygu eu harferion eu hunain ac arferion eu sefydliad yn unol â hynny).
Aeddfedrwydd digidol: proses sefydliad yn dysgu sut i ymateb ac addasu i'r amgylchedd digidol sy'n dod i'r amlwg.
Llif gwaith digidol: cyfuniad dilyniannol o ddata, canllawiau, a thasgau sy'n ffurfio proses gylchol. Drwy reoli llifau gwaith yn ddigidol, gall defnyddwyr fonitro, symleiddio ac awtomeiddio prosesau a thasgau.
E-gontractio: ffordd electronig o drafod, cwblhau a llofnodi contractau
Pwynt gwerthu electronig (EPOS): system gyfrifiadurol ar gyfer cofnodi gwerthiannau gan ddefnyddio sganiwr laser i ddarllen codau bar ar becynnau'r eitemau a werthir.
Rheoli cyfleusterau: cynnal a chadw adeiladau ac offer sefydliad
GDPR: Mae'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR) 2016/679 yn rheoliad yng nghyfraith yr UE ar ddiogelu data a phreifatrwydd i holl ddinasyddion unigol yr Undeb Ewropeaidd a'r ardal economaidd Ewropeaidd. Mae hefyd yn mynd i'r afael â throsglwyddo data personol y tu allan i ardaloedd yr UE a'r AEE. Daeth i rym ym mis Mai 2018.
iBeacon: protocol a ddatblygwyd gan Apple. Trosglwyddyddion bach iBeacon-cydnaws – a elwir yn iBecons fel arfer – yn darlledu eu dynodydd i ffonau symudol cyfagos neu ddyfeisiau electronig eraill. Mae'r dechnoleg yn galluogi i gamau gael eu cymryd pan fydd ffôn symudol, tabled neu ddyfais arall yn agos at iBeacon e.e. pennu lleoliad ffisegol dyfais neu ysgogi gweithred yn seiliedig ar leoliad ar y ddyfais megis archwiliad ar y cyfryngau cymdeithasol neu hysbysiad gwthio.
Hawliau eiddo deallusol: hawliau a ddelir gan berson neu gwmni i ddefnyddio cynlluniau, syniadau, neu asedau anniriaethol eraill heb boeni am gystadleuaeth, am gyfnod penodol o leiaf. Gall yr hawliau hyn gynnwys hawlfreintiau, patentau, nodau masnach, a chyfrinachau masnach.
System etifeddiaeth: hen system gyfrifiadurol neu gais sy'n parhau i gael ei ddefnyddio oherwydd nad yw'r defnyddiwr neu'r sefydliad eisiau ei ddisodli.
LiDAR: canfod golau ac amrywio. Dull tirfesur sy'n mesur y pellter i darged trwy ei oleuo â golau laser a mesur y golau a adlewyrchir gyda synhwyrydd. Yna gellir defnyddio gwahaniaethau mewn amseroedd dychwelyd laser a thonfeddi i wneud cynrychioliadau 3-D digidol o'r targed.
Cyfuno post: ychwanegu gwybodaeth gyswllt yn awtomatig o gronfa ddata i lythyrau ac amlenni fel y gall post gael ei anfon at lawer o dderbynwyr.
Data Agored: y syniad y dylai rhywfaint o ddata fod ar gael yn rhwydd i bawb eu defnyddio a'u hailgyhoeddi fel y mynnant, heb gyfyngiadau o hawlfraint, patentau neu fathau eraill o reolaeth.
Trwydded agored neu drwydded ffynhonnell agored: cytundeb trwydded sy'n caniatáu i unigolion eraill ddefnyddio, rhannu ac addasu gwaith crewr arall o dan dermau diffiniedig.
Ffotogrametreg: y broses o wneud mesuriadau o ffotograffau i greu allbynnau a allai gynnwys mapiau, lluniadau, mesuriadau neu fodelau 3D o wrthrych neu olygfa o'r byd go iawn
Rheoli rhyddhau a lleoli: cynllunio, dylunio, adeiladu, profi a defnyddio meddalwedd a chaledwedd newydd yn yr amgylchedd 'byw' lle bydd yn cael ei ddefnyddio.
Dilysu gwasanaeth: sicrhau bod gwasanaethau digidol newydd neu wedi'u newid yn addas at y diben ac yn cael eu defnyddio.
System ynni clyfar: system sy'n defnyddio lefel gynaliadwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy ac sydd wedi'i chynllunio i sicrhau'r effeithlonrwydd ynni mwyaf posibl a lleihau costau.
Defnyddioldeb: defnyddioldeb digidol yw'r graddau y gall y gwasanaeth neu'r profiad digidol gael ei ddefnyddio gan ei gynulleidfa darged i gyflawni'r amcanion sy'n ofynnol gydag effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a bodlonrwydd.
Dylunio profiad defnyddwyr (UX): y broses o greu cynhyrchion sy'n darparu profiadau ystyrlon a pherthnasol i ddefnyddwyr, gan gynnwys agweddau ar frandio, dylunio gweledol, hygyrchedd, defnyddioldeb a swyddogaeth.
Consortiwm Gwe Byd Eang (W3C): Mae'n gymuned ryngwladol sy'n datblygu safonau agored i sicrhau twf y we yn y tymor hir. Mae hyn yn cynnwys ei Chanllawiau Hygyrchedd Ar Gyfer Cynnwys y We (WCAG).
Wi-Fi: cyfleuster sy'n galluogi cyfrifiaduron, ffonau clyfar, neu ddyfeisiau eraill i gysylltu â'r rhyngrwyd neu gyfathrebu â'i gilydd yn ddi-wifr o fewn ardal benodol.
Tracio Wi-Fi: defnyddio signalau Wi-Fi (neu Bluetooth) i fonitro pryd, ble ac am ba hyd y defnyddir ffôn symudol neu ddyfais arall mewn lleoliad penodol. Gall sganwyr wedi'u gosod mewn lleoliadau godi cyfeiriad rheoli mynediad y cyfryngau (MAC) ar ddyfais, p'un a yw wedi'i chysylltu â rhwydwaith ai peidio. Gall hyn ddarparu gwybodaeth ynglŷn â faint o bobl sydd mewn lleoliad, eu lleoliad, amser, hyd yr arhosiad ac a ydynt yn dychwelyd ar ôl hynny.