Mae angen i chi fewngofnodi neu greu cyfrif am ddim i ddefnyddio'r Traciwr i greu ac arbed asesiadau neu weld adroddiadau. Cyn i chi ddechrau defnyddio'r Traciwr, efallai y bydd yr arweiniad canlynol o ddefnydd i chi.

  • Beth mae'n ei wneud?

    Datblygwyd y Traciwr gyda sefydliadau celfyddydol a threftadaeth o bob math a maint i'ch helpu i:

    • Asesu defnydd presennol eich sefydliad o ddigidol
    • Gosod targedau ar gyfer ble yr hoffech fod mewn 12 mis
    • Cofnodi nodiadau sy'n esbonio'r meddylfryd y tu ôl i'ch asesiad presennol a'ch targedau
    • Rhannu adroddiadau ar-lein gyda chydweithwyr ac eraill
    • Allforio cynnwys ar gyfer gweithio all-lein

    Nid oes angen i chi gwblhau asesiad yr un pryd: gallwch fewngofnodi ac allgofnodi mor aml ag y byddwch ei angen. Gallwch arbed sawl asesiad, fel y gallwch adrodd ar eich cynnydd digidol ar wahanol adegau neu am resymau gwahanol. Os ydych yn ymgynghorydd neu'n goruchwylio grŵp o sefydliadau, gallwch greu asesiadau ar gyfer gwahanol sefydliadau.

  • Pryd ddylwn i ei ddefnyddio?

    Mae yna sefyllfaoedd amrywiol lle gallech chi fod eisiau defnyddio'r Traciwr:

    • Fel rhan o gynllunio cynhwysfawr holl weithgareddau digidol eich sefydliad, e.e. i gefnogi creu neu adolygu eich cynllun busnes
    • Wrth adolygu gweithgareddau digidol i fonitro cynnydd o gyfnod blaenorol, e.e. fel rhan o gylch adolygu blynyddol
    • Wrth ganolbwyntio ar agweddau penodol ar eich defnydd o ddigidol, e.e. adolygu elfennau digidol eich gweithgareddau marchnata
    • Wrth ystyried sut y cydlynir yr ystod o weithgareddau digidol ar draws eich sefydliad: e.e. adolygu strwythurau staff a'r agweddau digidol ar ddisgrifiadau swydd

    I gael arweiniad cam wrth gam i'r gwahanol sefyllfaoedd hyn, darllenwch pryd i ddefnyddio'r Traciwr.

  • Beth mae'n ei gwmpasu?

    Mae'r Traciwr yn rhannu gweithgareddau eich sefydliad i 12 maes. Mae'r rhain yn cynnwys e.e: Strategaeth a Llywodraethu; Rhaglen Ddiwylliannol; Mannau a Lleoedd; Marchnata a Chyfathrebu; Adnoddau Dynol; Technoleg Gwybodaeth; a Chyllid a Gwethrediadau.

    Byddwch yn dewis pa feysydd sy'n berthnasol i'ch sefydliad ac yna, ym mhob faes, byddwch yn asesu'r elfennau digidol rhwng pump a deg o wahanol weithgareddau, gan ddefnyddio graddfa pum pwynt gyson. Gallai'r gweithgareddau hyn gynnwys eich defnydd o dechnoleg, cynnwys creadigol, data, prosesau neu ffyrdd o weithio.

    Fel yn y meysydd hyn, gallwch nodi gweithgaredd penodol fel 'ddim yn berthnasol' ar gyfer eich sefydliad. Mae hyn yn golygu y gallwch deilwra'r Traciwr i'ch anghenion, heb effeithio ar eich sgôr gyffredinol.

    Darllenwch fwy am y 12maes gweithgaredd.

  • Pwy ddylai ei gwblhau?

    • Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr digidol i ddefnyddio'r Traciwr. Rydym wedi ceisio cadw'r iaith yn syml ac esbonnir unrhyw dermau technegol yn yr Eirfa.

    Mae'r Traciwr yn cwmpasu pob agwedd ar eich sefydliad. Oni bai fod eich sefydliad yn fach iawn, mae'n annhebygol y bydd gan un unigolyn synnwyr cywir o'ch holl weithgareddau a galluoedd digidol. Mae'n werth ystyried barn ymddiriedolwyr, rheolwyr, staff a gwirfoddolwyr. Po fwyaf y gallwch gasglu safbwyntiau gwahanol, po fwyaf cywir a defnyddiol y bydd eich asesiad yn debygol o fod. Gallwch hefyd lawrlwytho cwestiynau ac adroddiadau ar gyfer eu rhannu all-lein, fel bod gwahanol bobl yn gallu cyfrannu.

    ON - mae fersiwn cyfredol y Traciwr yn caniatáu i un defnyddiwr fewngofnodi i bob cyfrif. Gellir rhannu adroddiadau yn hawdd gan ddefnyddio cysylltiadau preifat. Gallwch hefyd rannu manylion mewngofnodi, er mwyn galluogi cydweithwyr i ddiweddaru gwybodaeth yn uniongyrchol, ond dylech osgoi cael mwy nag un person yn golygu asesiadau ar yr un pryd, gan ei bod yn bosibl na fydd y newidiadau i gyd yn cael eu cadw.

  • Beth yw'r pum lefel aeddfedrwydd?

    Mae'r Traciwr yn caniatáu i chi asesu elfennau digidol gweithgaredd drwy ystyried pum lefel o aeddfedrwydd digidol:

    1. Cychwynnol
    2. Rheoli
    3. Integredig
    4. Optimeiddio
    5. Trawsnewid

    Ar gyfer pob gweithgaredd, byddwch yn penderfynu a ydych wedi "cyflawni'n llawn", "wedi cyflawni'n rhannol" neu "heb gyflawni" y meini prawf ym mhob lefel (gweler mwy am sgorio eich cynnydd isod).

    Mae'r meini prawf ar gyfer y pum lefel wedi'u teilwra ar gyfer pob gweithgaredd. Fodd bynnag, maen nhw bob amser yn dilyn yr un egwyddorion, y gallwch ddarllen amdanyn nhw’n ein Canllawiau ar lefel aeddfedrwyddmaturity.

    Mae'r dull yma’n debyg i fodelau aeddfedrwydd proses busnes sefydledig. Mae'n rhoi cymhariaeth wrthrychol a chyson ar draws gwahanol weithgareddau ac mae'r sgorio safonedig yn golygu y gallwch ddod yn gyfarwydd â'r dull yn gyflym.

  • Beth yw'r tagiau?

    Mae rhai galluoedd digidol yn codi ar draws cwestiynau mewn gwahanol feysydd: e.e. y gallu i reoli data, datblygu sgiliau digidol a chefnogi hygyrchedd a chynhwysiant digidol. Nodir y galluoedd cylchol hyn yn y Traciwr gan y tagiau a arddangosir nesaf at y cwestiynau perthnasol.

    Mae'r adroddiad ar eich asesiad yn cynnwys siart bar a thabl data sy'n crynhoi eich sgoriau cyfredol a tharged ar gyfer y galluoedd hyn ar draws y Traciwr.

  • Sut ydw i'n sgorio fy statws cyfredol a tharged?

    Ni ddylech anelu am sgoriau uchaf yn yr holl weithgareddau perthnasol. Mae cyflawni 100% yn afrealistig ac yn awgrymu gosod blaenoriaethau gwael. Gyda'ch adnoddau cyfyngedig, dylech ganolbwyntio ar welliannau i'r gweithgareddau digidol hynny sy'n cefnogi eich amcanion orau.

    Ar gyfer pob gweithgaredd ar bob un o'r pum lefel aeddfedrwydd (gweler uchod), penderfynwch a yw eich sefydliad wedi "cyflawni'n llawn" (2 bwynt), wedi "cyflawni'n rhannol" (1 pwynt) neu "heb gyflawni eto" (0 pwynt) y meini prawf.

    Os yw gweithgaredd yn berthnasol i'ch sefydliad ond dydych chi ddim wedi dechrau gweithio arno eto, yna gadewch bob un o'r pum lefel, gan gynnwys y safon 'gychwynnol', wedi'i gosod ar ‘0', sy'n golygu 'heb ei chyflawni eto'. Mae hyn yn dangos ei fod yn rhywbeth y dylai eich sefydliad fod yn ei wneud ond nad yw wedi dechrau.

    Os nad yw gweithgaredd neu ardal yn berthnasol i'ch sefydliad chi (e.e. does gennych chi ddim casgliad i'w reoli), nodwch hynny fel 'ddim yn berthnasol' a bydd yn cael ei dynnu o'ch sgorio'n gyfan gwbl. Yna cyfrifir eich sgôr gyffredinol ar gyfer pob ardal fel canran ar draws y gweithgareddau rydych wedi penderfynu eu bod yn "berthnasol".

    Gallwch sgorio eich statws cyfredol a tharged ar gyfer ble rydych eisiau bod mewn 12 mis. Bydd eich adroddiad terfynol wedyn yn dangos lle mae'r bylchau mwyaf yn eich gallu digidol presennol, yn erbyn ble rydych chi'n anelu ato. Os nad ydych am wella rhywbeth neu os ydych eisoes wedi 'ei gyflawni'n llawn', yna dylech sgorio eich statws targed yr un fath â'ch statws presennol.

  • Beth ddylwn i ei gofnodi yn y nodiadau?

    Mae'r Traciwr yn caniatáu i chi ychwanegu nodiadau ar gyfer eich sgoriau cyfredol a tharged. Dyma rai o'r pethau y gallai fod yn ddefnyddiol eu rhoi yn y nodiadau hyn:

    Ar gyfer eich sgôr gyfredol

    • Unrhyw esboniad neu dystiolaeth i gefnogi eich sgôr
    • Y bobl a'ch helpodd i benderfynu'r sgôr yma
    • Y person/pobl sy'n gyfrifol am reoli'r gweithgaredd yma
    • Unrhyw gyfyngiadau a wynebir wrth reoli elfennau digidol y gweithgaredd yma (e.e. cyllidebau neu adnoddau cyfyngedig; gofyniad i ddefnyddio rhai systemau neu gyflenwyr)

    Ar gyfer eich sgôr darged:

    • Y sail resymegol dros y sgôr (e.e. pam ei fod yn flaenoriaeth uchel neu isel ar gyfer gwella?)
    • Adnoddau (amser, arian, sgiliau, systemau, cyflenwyr, partneriaid ac ati) sydd eu hangen i gyflawni unrhyw dargedau gwella
    • Y person/pobl sy'n gyfrifol am reoli a chyflawni unrhyw welliannau cynlluniedig
    • Camau nesaf sydd eu hangen
    • Unrhyw risgiau i fonitro neu liniaru camau i gymryd
    • Pryd y byddwch yn adolygu'r cynnydd nesaf
  • Pa adrodd sydd ar gael?

    Mae'r Traciwr yn caniatáu i chi gynhyrchu nifer o wahanol adroddiadau ac allforion:

    • Graff a thabl crynodeb o'r sgoriau cyfredol a'r targed ym mhob maes
    • Y gallu i lawrlwytho PDFs o'r graffiau hyn a chrynodebau tabl ar gyfer rhannu all-lein
    • Adroddiad rhyngweithiol sy'n caniatáu i chi dreiddio i mewn i gwestiynau ac atebion ar gyfer pob maes a gweithgarwch
    • Y gallu i rannu graffiau, tablau ac adroddiadau rhyngweithiol gydag eraill trwy ddolen unigryw
    • Allforio CSV o'r holl ddata cwestiwn ac ateb yn eich asesiad, fel y gallwch rannu cynnwys heb gysylltu a chreu eich adroddiadau eich hun

    Gallwch ddefnyddio'r opsiynau hyn ar gyfer adroddiadau terfynol, ond hefyd i rannu cynnydd a chymharu nodiadau â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth i chi gynnal asesiad.

  • Sut mae'r data'n cael ei ddefnyddio?

    Fel offeryn hunan-asesu, mae’r data rydych yn ei gyflwyno i'r Traciwr yn dod o dan eich rheolaeth chi. Ni fydd staff yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a phartneriaid prosiect eraill yn defnyddio'r data i asesu eich sefydliad, oni bai eich bod yn dewis rhannu'r adroddiadau rydych yn eu cynhyrchu gyda nhw.

    Mae'r system yn caniatáu i bartneriaid y prosiect weld adroddiadau agregedig yn seiliedig ar ddata dienw, fel eu bod yn gallu gweld y nifer a'r mathau o sefydliadau sy'n defnyddio'r system olrhain a'r sgoriau cyfartalog ar gyfer gwahanol feysydd a chwestiynau.

    Gellir defnyddio'r data hwn yn y dyfodol i wella nodweddion y Traciwr ar-lein, gan gynnwys creu mewnwelediad o bosibl am dueddiadau'r sector, y byddwn yn ei rannu â chi. Dyma'r rheswm pam rydym yn gofyn y cwestiynau proffil yn adran 2 y Traciwr.

    Gweler y polisi preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut y defnyddir eich data.